Geiriad y ddeiseb
‘Gofynnwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru:
1. Gynghori Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro i:
· ddarparu digon o le parcio ar y safle ar gyfer staff ac ymwelwyr trwy gael ardaloedd addas ar gyfer parcio i’r ysbyty ar y safle ac ar dir fel yr ardal ddiffaith i’r gogledd o’r rhandiroedd gyferbyn ag Ysbyty’r Mynydd Bychan ar yr ochr arall i Eastern Avenue,
· datganoli rhai o’r gwasanaethau sydd eisoes ar safle’r Mynydd Bychan a
· pheidio â gwerthu tir ysbytai yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos ar gyfer tai.
2. Argymell bod Cyngor Sir Caerdydd yn:
· gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu pellach ar safle Ysbyty’r Mynydd Bychan oni bai bod uned yn cael ei symud o’r safle, a gaiff yr un effaith ar draffig
· peidio â chefnogi datblygiadau amlfeddiannaeth yn yr ardal a
· chyflwyno system parcio am gyfnod cyfyngedig yn y strydoedd sydd o fewn pellter cerdded i Ysbyty’r Mynydd Bychan.
3. Ystyried o fewn y Cynulliad, cyflwyno system a fyddai’n caniatáu i grwpiau lleol apelio i’r Cynulliad pan fydd y cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y mae’r trigolion yn ystyried a fydd yn gwaethygu’r broblem barcio yn yr ardal.
Linc i’r ddeiseb: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitionsold/admissible-pet/p-03-136.htm
Cynigwyd gan: Y Cynghorydd Ron Page
Nifer y llofnodion:500+
Y wybodaeth ddiweddaraf:Bydd y Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.